OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2018 Rhif (Cy. )
YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU
DIOGELU’R AMGYLCHEDD, CYMRU
Rheoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p .16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) 2006 (“Rheoliadau 2006”). Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 5 o Reoliadau 2006 drwy fewnosod darpariaeth newydd sy’n addasu sut y mae’r diffiniad o “inspection” yn Erthygl 4(43) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/59/Euratom, sy’n gosod safonau diogelwch sylfaenol ar gyfer diogelu rhag y peryglon sy’n codi o ddod i gysylltiad ag ymbelydredd ïoneiddio, ac yn diddymu Cyfarwyddebau 89/618/Euratom, 90/641/Euratom, 96/29/Euratom, 97/43/Euratom a 2003/122/Euratom (OJ Rhif L 013, 17.1.2014, t. 1), i’w ddarllen at ddibenion Rheoliadau 2006.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2018 Rhif (Cy. )
YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU
Diogelu’r amgylchedd, Cymru
Rheoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019
Gofynion sifftio wedi eu bodloni ***
Gwnaed ***
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ***
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018([1]).
Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
Enwi a chychwyn
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 a deuant i rym ar y diwrnod ymadael.
Diwygio Rheoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) 2006
2.Yn rheoliad 5 o Reoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) 2006([2]) (adran 78A (rhagarweiniol)), ar ôl paragraff (8) mewnosoder—
(9) Ar ôl is-adran (9) mewnosoder—
(9A) When reading Council Directive 2013/59/Euratom for the purpose of subsection (9), article 4(43) of Council Directive 2013/59/Euratom is to be read as if, for the words “any competent authority”, there were substituted “the enforcing authority([3])”.”
Enw
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
Dyddiad